Memorandwm Esboniadol i Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019

Mae’r Memorandwm Esboniadol hwn wedi’i baratoi gan Adran yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol a chaiff ei roi ger bron y Cynulliad Cenedlaethol gyda’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

Datganiad y Gweinidog/Dirprwy Weinidog

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn farn deg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019.

 

Lesley Griffiths AC

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
5 Tachwedd 2019

 

 


 

1. Disgrifiad

1.1 Mae Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Deddf 2010) yn ymwneud â darpariaethau ar gyfer draenio cynaliadwy (SuDS).  Yn eu plith y mae sefydlu Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) i’w sefydlu o fewn awdurdodau lleol law yn llaw â’u dyletswydd fel y prif awdurdod llifogydd lleol (LLFA).  Bydd angen cymeradwyaeth y SAB cyn dechrau adeiladu systemau draenio ar safleoedd newydd neu safleoedd sy’n cael eu hailddatblygu.

1.2 Mae Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 (“Gorchymyn 2018”) yn darparu ar gyfer gorfodi pan eir yn groes i’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol (“y gofyn i gymeradwyo”) o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 o Ddeddf 2010 mewn cysylltiad â systemau draenio ar gyfer gwaith adeiladu.

1.3 Mae Erthygl 21 o Orchymyn 2018 yn ei gwneud yn drosedd peidio â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop.

1.4 Mae Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn newid terfyn ariannol y ddirwy a roddir o gael euogfarn ddiannod, hynny er mwyn ei gysoni â’r dirwyon diderfyn am droseddau y caiff Llysoedd Ynadon eu gosod yn sgil Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.

 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

2.1 Dim.

 

3. Cefndir deddfwriaethol

3.1 Gwneir y gorchymyn hwn trwy’r pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a pharagraffau 4(a) ac 14 o’i Hatodiad 3. 

3.2 Yn unol â pharagraff 14(5)(b) o Atodlen 3 y Ddeddf honno, mae’r offeryn hwn yn dilyn gweithdrefn gadarnhaol y Cynulliad.

4. Pwrpas ac effaith fwriedig y ddeddfwriaeth

4.1 Mae Erthygl 21 o Orchymyn 2018 yn cyfyngu ar faint y ddirwy y gellir ei rhoi mewn achos diannod am y drosedd o beidio â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop, i uchafswm o £20,000.

 

4.2 Cafodd Gorchymyn 2018 ei ysgrifennu cyn cychwyn adran 85(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (LASPO) ond ni ddaeth i rym tan ar ôl hynny ac ni ddaeth felly o dan effaith y ddarpariaeth honno.  Roedd LASPO yn dileu terfyn uchaf y dirwyon y câi Llysoedd Ynadon eu rhoi am bob bron pob trosedd.

 

 

 

4.3 Er mwyn sicrhau cysondeb â throseddau eraill o natur debyg, mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 er mwyn darparu dirwy ddiderfyn ar gyfer pob trosedd yn y Gorchymyn hwn.  Mae’r newid hwn yn golygu y caiff Llys Ynadon roi dirwy ddiderfyn a’i fod yn gyson â geiriad y newidiadau i ddeddfwriaethau eraill yn sgil LASPO.

 

5. Ymgynghori

5.1 Gan fod y Gorchymyn yn gwneud newid technegol nad yw’n adlewyrchu newid ym mholisi Llywodraeth Cymru, nid oes angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

 

6. Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA)

6.1 Gan mai bach iawn fydd effaith y newid i Orchymyn 2018 ar wasanaethau yng Nghymru, nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gynnal.

 

7. Asesiad o’r Gystadleuaeth

7.1 Nid yw hyn yn gymwys.

 

8. Adolygiad ar ôl ei roi ar waith

8.1 Nid yw hyn yn gymwys.